Numbers 25

Pobl Israel a Baal-peor

1Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. 2Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. 3Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr Arglwydd wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, 4a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr Arglwydd ganol dydd, er mwyn i'r Arglwydd beidio bod mor wyllt gydag Israel.” 5Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” 6Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. 7A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, 8a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. 9Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.

10Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 11“Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy nig yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosta i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. 12Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e; 13ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a pobl Israel.” 14Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon. 15Ac enw'r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian.

16A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 17“Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a'u dinistrio nhw. 18Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o'i tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”

Copyright information for CYM